Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid

Business Area

Reference

COI00140

Contract Type

Full Time

Location

Remote

Closing Date

23-07-2025

This is the job

Cyflog: £23,185
Contract: 36.25 awr yr wythnos

Shifftiau: Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 7.30y.b–6:15y.p & Penwythnosau rhwng 8y.b – 3y.p

Mae Drivetech yn arweinydd yn y DU o ran darparu cyrsiau troseddwyr gyrru a gyfeiriwyd gan yr heddlu, gyda gwelliannau mewn diogelwch ar y ffyrdd a diogelwch pobl yn greiddiol i’w genhadaeth.

Byddwch yn dod yn arbenigwr ar ein cyrsiau a gyfeiriwyd gan yr heddlu ac yn berson y gall ein cwsmeriaid ddibynnu arno pan fyddant ein hangen fwyaf. Beth bynnag yw’r alwad, bydd eich ymroddiad i’r cwsmer yn sicrhau eu bod yn cael y canlyniad cywir bob tro. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cyflym wrth wneud i bob cwsmer deimlo fel mai nhw yw’r alwad gyntaf y dydd. Fel rhan o’n tîm rheng flaen, byddwch yn gosod y naws ar gyfer yr hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gan Drivetech a’r AA. Gall rhai o’r galwadau fod yn fwy cymhleth neu’n cynnwys cwsmeriaid rhwystredig neu fregus, dyna pam ein bod yn rhoi pwyslais cryf ar waith tîm, gyda phawb yno i gefnogi ei gilydd mewn sefyllfaoedd anodd.

Gwnewch gais nawr i ryddhau eich potensial!

Beth fyddaf yn ei wneud?

  • Rhyngweithio â dirprwyon a chydweithwyr dros y ffôn ac e-bost, gan ddefnyddio rhesymeg i asesu’r cam gorau i’w gymryd
  • Cynnal gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau yn rhagweithiol a dysgu gwybodaeth newydd i ddatrys ymholiadau unigryw cwsmeriaid
  • Ymdrechu i wella drwy ddefnyddio adnoddau, offer a systemau sydd ar gael i gynnig y gwasanaeth cwsmer gorau
  • Cadw ffocws a cyfryn yn ystod amseroedd brig, gan sicrhau bod pob cwsmer yn derbyn yr un lefel eithriadol o wasanaeth
  • Ymdrechu i sicrhau bod pob cwsmer yn cael profiad o’r radd flaenaf sy’n cael ei ddisgwyl gan ein brand eiconig!

Rydym yn chwilio am rywun fydd yn:

  • Datrys problemau: byddwch yn deall gwybodaeth sy’n dod i mewn ac yn gwneud penderfyniadau rhesymegol yn gyflym ac yn effeithlon
  • Archwiliwr: bydd angen i chi fod yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu gwybodaeth newydd a’i chymhwyso’n gyflym
  • Hunanysgogol: byddwch yn rhagweithiol, gan gymryd balchder ac ymdeimlad o berchnogaeth yn eich gwaith
  • Gweithredwr cyfansoddedig: byddwch yn ymdopi’n dda mewn sefyllfaoedd dan bwysau, gan gynnal gwytnwch wrth reoli rhwystrau’n effeithiol

Gwybodaeth Ychwanegol

I ddysgu mwy am Drivetech, ewch i’n gwefan: Drivetech

Eich Cyfweliad

Os ydych yn cyd-fynd â’r proffil ymddygiadol i ffynnu yn y rôl a’r amgylchedd, byddwch yn cael gwahoddiad i gyfweliad terfynol sy’n para tua 60 munud. Byddwch yn cwrdd â’n cyfwelwyr cyfeillgar ar gyfer cyfweliad yn seiliedig ar gymwyseddau sy’n cynnwys chwarae rôl.

Ymuno â’r Tîm

Ar ôl i ni wneud cynnig a chwblhau’r gwiriadau cyn-cyflogaeth, byddwch yn derbyn eich contract.

Hyfforddiant a mynd yn fyw ar y ffonau

O’r diwrnod cyntaf yn Drivetech, byddwn yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Bydd ein hyfforddwyr arbenigol yn eich tywys trwy’r wythnosau cyntaf o’ch cyfnod cynefino lle byddwch yn dysgu llawer am sut i gefnogi ein cwsmeriaid mewn amgylchedd dysgu hwyliog a chydweithredol. Yna byddwch yn symud ymlaen gyda chefnogaeth gan eich Rheolwr Llinell a’ch cydweithwyr nes i chi ddod yn arbenigwr ar ein hymddygiadau, cynnyrch a systemau.

Additional information

Rydym bob amser yn ceisio cydnabod a gwobrwyo ein gweithwyr am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

Fel aelod gwerthfawr o dîm yr AA, bydd gennych fynediad at ystod o fuddion gan gynnwys:

  • 23 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
  • Cynllun pensiwn Worksave gyda hyd at 7% cyfraniad gan y cyflogwr
  • Aelodaeth AA Breakdown am ddim o’r diwrnod cyntaf ynghyd â 50% gostyngiad i deulu a ffrindiau
  • Gostyngiadau ar gynnyrch AA gan gynnwys yswiriant car a chartref
  • Cynllun gostyngiadau i weithwyr gyda mynediad at fargeinion gwych ar ofal iechyd, siopa, gwyliau a mwy
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu amrywiol i’ch cefnogi i symud ymlaen yn eich gyrfa
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr a gwasanaeth Meddyg Teulu o bell 24/7 i chi a’ch teulu

A llawer mwy!

Rydym yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bawb. Mae’r AA yn gwerthfawrogi amrywiaeth a’r gwahaniaeth y mae hyn yn ei ddod i’n diwylliant a’n cwsmeriaid. Rydym yn chwilio’n weithredol am bobl o gefndiroedd amrywiol i ymuno â ni a bod yn rhan o gwmni cynhwysol lle gallwch fod yn chi eich hun, cael eich grymuso i fod eich gorau a theimlo eich bod yn perthyn yn wirioneddol. Mae gennym bum cymuned i ddod â phobl gyda nodweddion a chefndiroedd tebyg ynghyd ac i ysgogi newid cadarnhaol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr uchod, peidiwch ag oedi i gysylltu.